Cyhoeddi Plwg: yn cysylltu athrawon, creadigolion a chyrff celfyddydau/diwylliant i danio creadigedd disgyblion
Ydych chi â’ch canolfan yng Nghymru ac yn athro, neu’n greadigolyn neu’n gorff diwylliannol neu yn y celfyddydau, yn gweithio mewn ysgolion?
Fyddai’n dda gennych chi:
- wella eich sgiliau a’ch hyder yn y Celfyddydau Mynegiannol a dysgu creadigol?
- dod o hyd i’r artist, y creadigolyn, neu’r corff diwylliannol neu yn y celfyddydau sydd i’r dim i weithio gyda chi a’ch disgyblion?
- dod o hyd i athrawon/ysgolion ac arnynt eisiau beth rydych chi’n ei gynnig?
- plannu’r celfyddydau mynegiannol a dysgu creadigol yn eich ysgol, neu ysgolion y gallech gydweithio â nhw?
Ar Plwg – gwefan newydd Cymru gyfan paru addysg, y celfyddydau a diwylliant – gallwch:
- chwilio am gyfle i gael eich cymar perffaith
- creu cyfle, i ddangos i bobl yn union beth rydych yn chwilio amdano neu beth allwch ei gynnig

Ymgofrestru yn Plwg.cymru – mae’n hawdd!
Pwy sydd y tu ôl i Plwg.cymru?
Mae Plwg yn ffrwyth rhai blynyddoedd o ymchwil a datblygu gydag athrawon a chreadigolion i gael hyd i ffordd gydnaws i’r sectorau addysg a chelfyddydau a diwylliannol gydweithredu. Fe’i datblygwyd gan Ymddiredolaeth Actifyddion Artistig, ac yn wreiddiol roedd yn rhan o Rwydwaith Celfyddydau ac Addysg A2:Clymu.
Bellach mae’n cael ei gefnogi a’i ddatblygu gan y Rhwydweithiau Celfyddydau ac Addysg ill pedwar – A2:Clymu, Edau, Nawr, a Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg De-ddwyrain Cymru, yn rhan o gynllun Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru Dysgu Creadigol i’r Celfyddydau – rhaglen cynllun gweithredu i Gymru.