Hyrwyddwyr Celfyddydau
Pwy yw’r Hyrwyddwyr Celfyddydau?
- Athrawon y celfyddydau profiadol ym myd addysg gynradd ac uwchradd.
- Ymarferwyr y celfyddydau profiadol.
Beth mae Hyrwyddwyr Celfyddydau yn ei wneud?
Maent yn adnodd y gall ysgolion ac athrawon ymgynghori â nhw wrth ddrafftio a gweithredu cynlluniau dysgu creadigol. Maent yn gwneud hyn drwy:
- Hyrwyddo a rhannu’r arfer gorau.
- Ddarparu hyfforddiant a chymorth.
- Fod yn ddelfryd ymddwyn cymheiriaid drwy wersi a gaiff eu harsylwi.
- Ddarparu mewnwelediad ar gyfer y rhwydwaith rhanbarthol ar yr hyn sy’n digwydd mewn ysgolion ac ym myd y celfyddydau, yn ogystal â rhoi cyfarwyddyd a chyngor ar anghenion hyfforddi.
Sut gwnaiff eich ysgol chi elwa oherwydd yr Hyrwyddwyr Celfyddydau?
- Rhoi cymorth i’r ysgol wrth iddi ddatblygu profiadau dysgu creadigol ar gyfer plant, a chyfoethogi’r cyfleoedd i ddatblygu eu llythrennedd a’u rhifedd.
- Rhoi cymorth i’r ysgol wrth iddi baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd fel yr amlinellir yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’
- Cyfoethogi gweithgaredd dysgu creadigol ar draws yr ysgol
- Darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon/ymarferwyr
- Gall y cynllun gwella’r ysgol ei gysylltu â’r gweithgareddau hynny y mae’r Hyrwyddwr Celfyddydau yn eu cyflwyno.
- Cyfoethogi sgiliau drwy ddarparu profiad ymarferol o wahanol fathau o gelfyddyd o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth.
- Caiff y cynllun Hyrwyddwr Celfyddydau ei ariannu’n gyflawn, ac ni fydd yn rhaid i’r ysgol / sefydliad dalu am unrhyw beth; gwnaiff y cynllun dalu am athro llanw a chostau teithio’r athro/ymarferwr yn unol â chostau darparu athro llanw.
Sut gallaf dderbyn cymorth oddi wrth yr Hyrwyddwyr Celfyddydau?
Cewch weld manylion meysydd pwnc creadigol a lleoliadau’r Hyrwyddwyr Celfyddydau ar y tudalennau unigol. Cysylltwch â’ch Hyrwyddwr Celfyddydau agosach a mwyaf priodol drwy gyflwyno ffurflen gyswllt gan ddefnyddio’r cyswllt sydd ar ei dudalen.