Hwyliau’r Llong Storia…. yn hedfan eto!

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ar ddydd Mawrth 18 a Mercher 19 o Fehefin fe fydd llond criw o hwylwyr yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnig sesiynau storia a cherddoriaeth am ddim i ysgolion cynradd ac uwchradd Abertawe.

Mae’r criw o storïwr yn cynnwys:

  • PAOLA BALBI & DAVIDE BARDI (EIDAL);
  • JOHAN THEORDORSSON (SWEDEN);
  • STEVE KILLICK & DAVID AMBROSE (CYMRU);

Fe fydd pob grŵp yn cynnig 60 munud o storiâu a cherddoriaeth gan ddweud storiâu traddodiadol o Ewrop a’r byd, gan ddangos hanes, daearyddiaeth a diwylliant eu gwledydd genedigol.

Fe fydd y storiâu yn cynnwys storiâu Llychlynnaidd, hanes anturwyr Eidalaidd, storiâu o forwyr o Gymru a Bryste a storiâu anhygoel am For Ladron gan gynnwys Anne Bonny a Mary Read.

Fe fydd y storïwyr i gyd yn adrodd y chwedlau trwy gyfrwng y Saesneg gyda chyfle i glywed Eidaleg, Swedaidd (yn ddibynnol ar y storïwr yr ydych yn dewis) gan ddysgu un neu ddwy frawddeg yn yr ieithoedd yma.

Mae’r Llong Storia Ewropeaidd yn rhan o brosiect ‘ Beyond The Borders Wales International Storytelling Festival’, ac wedi eu cefnogi gan ‘Creative Europe’.

Hyd: 1 awr

Dyddiadau: Dydd Mawrth 18ain o Mehefin a dydd Mercher 19ain o Mehefin 2019

Tâl: – am ddim.  

Dan arweiniad staff yr Amgueddfa